BACK TO BLACK (15)

Sam Taylor-Johnson | USA | 2024 | 122’

Mae’r ffilm Back to Black sy’n dathlu seren fwyaf eiconig yr 21ain ganrif - y mae colled fawr ar ei hôl - yn adrodd stori ryfeddol Amy Winehouse. Gan beintio darlun llachar, bywiog o strydoedd Camden a oedd yn gartref iddi a chipio brwydrau enwogrwydd byd-eang, mae Back to Black yn anrhydeddu celfyddyd, ffraethineb a gonestrwydd Amy, yn ogystal â cheisio deall ei phroblemau. Golwg ddiysgog ar enwogrwydd modern a theyrnged bwerus i dalent unwaith mewn cenhedlaeth. Gyda Marisa Abela, Jack O'Connell, Eddie Marsan a Lesley Manville.

£8.40 (£7.70)

Caiff y ffilm hon ei dangos gydag isdeitlau ar Nos Fawrth 23 Ebrill @ 6.45pm

Browse more shows tagged with: