BEYOND THE RAGING SEA (PG)

Marco Orsini | USA | 2018 | 70’

Bydd y ffilm hynod wefreiddiol a theimladwy hon yn eich cadw ar ymyl eich sedd wrth iddi ddilyn taith ysbrydoledig a drodd yn antur beryglus, sy'n adlewyrchu’r argyfwng ffoaduriaid presennol. Mae’r athletwyr eithafol Omar Samra ac Omar Nour, yn adnabyddus hefyd fel ‘O2’, yn cychwyn ras rwyfo galetaf y byd - taith heb gymorth, 3,000 o filltiroedd morol ar draws Cefnfor yr Iwerydd, o La Gomera i Antigua. Er hyfforddi’n galed am 10 mis, yr hyn na allai O2 baratoi ar ei gyfer yw’r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd.

£8.40 (£7.70)

Browse more shows tagged with: