Exhibition On Screen: David Hockney

Ystyrir David Hockney yn gyffredin fel artist mwyaf poblogaidd Prydain, ac mae ganddo arddangosfeydd ar draws y byd sy’n denu miliynau o ymwelwyr. Erbyn hyn yn wythdeg mlwydd oed, nid yw Hockney’n dangos unrhyw arwydd o arafu na cholli ei ehofndra nodweddiadol. Yn cynnwys cyfweliadau personol a chynhwysfawr gyda Hockney, mae’r ffilm yn canolbwyntio ar ddwy arddangosfa fawr a gynhaliwyd yn 2012 a 2016. Cafodd y cyfarwyddwr Phil Grabsky fynediad arbennig er mwyn llunio’r dathliad sinematig hwn am feistr creadigol yr 21ain ganrif.

£10 (£9)

Browse more shows tagged with: