The Budapest Café Orchestra
Sefydlwyd y Budapest Café Orchestra yn 2009 gan y cyfansoddwr a’r feiolinydd Prydeinig, Christian Garrick, ac o dan ei arweiniad mae’r gerddorfa wedi denu nifer fawr o gefnogwyr gyda’u perfformiadau hudolus a heintus.
Cerddorfa fach ond perffaith yw’r Budapest Café Orchestra, gyda phedwar offerynnwr yn unig sy’n cyfuno ffidil, gitâr, acordion, bas dwbl, saz a balalaika mewn modd disglair, gan greu alcemi clywedol anhygoel sydd fel arfer ond yn nodweddiadol o ensembles llawer mwy.
Mae’r gerddoriaeth yn dwyn i gof delweddau bywiog o feistri ffidl y Tzigane, bywyd caffiym Mwdapest a thanau gwersyll sipsiwn - yn ogystal ag ambell syrpreis ar hyd y ffordd. Mae sioegan yBudapest Café Orchestra yn hynod ddifyr, ac yn arddangos sgiliau rhyfeddol a dawn gerddorol aruthrol, yn wir, mae’n ddigon da i’ch temtio i fynd ati i drefnu gwyliau ar y Danube!
£16 (£15)