Everybody Knows (15)

Asghar Farhadi | 2019 | Spain | France | Italy | 133’

Mae Laura (Penelope Cruz) yn teithio gyda’i dau blentyn o’r Ariannin i’w thref enedigol fechan yn Sbaen ar gyfer priodas ei chwaer. Yng nghanol yr aduniad a dathliadau hapus, caiff ei merch hynaf ei herwgipio. Yn y diwrnodau dirboenus sy’n dilyn, daw gwahanol dyndrâu teuluol a chymunedol i’r wyneb a datgelir cyfrinachau sydd wedi eu cuddio’n ddwfn.

£7.70 (£5.90)