Back

Cymdeithas Ffilm Theatr Mwldan

Diweddarwyd Medi 2024

Mae Cymdeithas Ffilm Theatr Mwldan yn elusen wobrwyedig sydd wedi bod yn cyflwyno’r goreuon ym maes sinema arthouse i Orllewin Cymru ers 25 mlynedd. Ar nos Sul o fis Medi i fis Mai rydym yn dangos tymor o ffilmiau rhagorol sydd wedi'u dewis a’u dethol yn ofalus. Mae'r ffilmiau'n amrywio o sinema byd i ffilmiau annibynnol Prydeinig, rhaglenni dogfen grymus ac animeiddiadau. Ein nod yw rhoi cyfle i bobl yng Ngorllewin Cymru fwynhau ffilmiau sy'n procio’r meddwl ar y sgrin fawr.

 

Dewch draw i gael eich ysbrydoli! 

Ar gyfer ein tymor 2024 / 2025 byddwn yn dangos ffilmiau ddwywaith y mis, ar yr ail a'r pedwerydd dydd Sul, ac eithrio Rhagfyr pan fydd gennym un dangosiad. Bydd ein tymor yn dechrau ddydd Sul 8 Medi a bydd yn cynnwys cyfanswm o 15 o ffilmiau.


Cynigwn Aelodaeth Gyflawn Flynyddol, sydd hefyd ar gael gyda Disgownt Prynu’n Gynnar, Aelodaeth TocynCynilo ac Aelodaeth Gyflawn Flynyddol i Bobl Ifanc. Mae ein dangosiadau unigol hefyd yn agored i'r cyhoedd am bris tocyn sinema safonol heb angen ymaelodi.


Mae tocynnau ar gael ar sail y cyntaf i'r felin, felly fe’ch cynghorwn i gadw eich sedd yn gynnar i sicrhau mynediad. Hyd yn oed fel Aelod Cyflawn mae dal angen i chi gadw sedd. Gellir gwneud hyn ar-lein (bydd y system archebu tocynnau yn nodi eich bod yn Aelod Llawn o'ch cyfeiriad e-bost, felly ni fydd tâl). Fel arall, gallwch ffonio'r Swyddfa Docynnau neu alw heibio cyn y dangosiad (yn amodol ar argaeledd).

 

OPSIYNAU AELODAETH 

 

AELODAETH GYFLAWN FLYNYDDOL: £40 

Mae aelodaeth gyflawn flynyddol yn rhoi’r hawl i chi fwynhau 15 o ffilmiau Cymdeithas Ffilm heb unrhyw gost ychwanegol. Mae'n ddilys o'r dyddiad prynu hyd at 31 Awst 2024. Yn ogystal, mae’n rhoi’r hawl i chi gael £2.50 oddi ar bris llawn tocyn oedolyn, a £1.80 oddi ar bris gonsesiynau ar bob dangosiad sinema safonol*. Byddwch hefyd yn derbyn cerdyn aelodaeth y Gymdeithas Ffilm y gallwch ei gasglu o swyddfa docynnau'r Mwldan.

*gan eithrio dangosiadau sinema 3D, digwyddiadau darlledu byw a dangosiadau cynnwys amgen.


AELODAETH GYFLAWN AR Y CYD - newydd ar gyfer 2024!

Mae cyfle hefyd i greu cyfrif aelodaeth ar y cyd os dymunwch. Mae hyn yn golygu y gallwch brynu dwy aelodaeth o dan un cyfrif, gan eich galluogi i gadw seddi a phrynu tocynnau ar gyfer dwy aelodaeth wahanol naill ai ar wahân neu gyda'i gilydd. Mae'n ddelfrydol ar gyfer pobl sy'n cadw dwy sedd gyda'i gilydd yn rheolaidd ac yn arbed gorfod mewngofnodi i ddau gyfrif ar wahân. Mae pris aelodaeth ar y cyd yr un fath â phetaech yn prynu'r aelodaethau ar wahân. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y trefniant hwn, cysylltwch â swyddfa docynnau'r Mwldan.

 

TOCYNCYNILO: £27

Mae cerdyn TocynCynilo yn rhoi mynediad am ddim i chi i dri dangosiad y Gymdeithas Ffilm o fewn cyfnod o 12 mis ynghyd â £2.50 oddi ar bris cyflawn tocyn oedolyn, neu £1.80 oddi ar gonsesiynau, ar bob dangosiad sinema safonol*. Mae cardiau Tocyncynilo yn ddilys am flwyddyn o'r dyddiad prynu a gellir eu prynu ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Byddwch hefyd yn derbyn cerdyn y Gymdeithas Ffilm y gallwch ei gasglu o swyddfa docynnau'r Mwldan.

*gan eithrio dangosiadau sinema 3D, digwyddiadau darlledu byw a dangosiadau cynnwys amgen.
 

AELODAETH GYFLAWN PERSON IFANC: £25 Ar gael i'w harchebu ar-lein am 1af i 8fed Medi.

Mae ein Haelodaeth Gyflawn Person Ifanc ar gyfer pobl 16-30 oed. Mae'n rhoi’r hawl i chi fwynhau 15 o ffilmiau Cymdeithas Ffilm heb unrhyw gost ychwanegol. Mae'n ddilys o'r dyddiad prynu hyd at 31 Awst 2025. Yn ogystal, mae’n rhoi’r hawl i chi gael £2.50 oddi ar bris llawn tocyn oedolyn, a £1.80 oddi ar bris gonsesiynau ar bob dangosiad sinema safonol*. Os ydych dan 18 oed ni chewch fynediad i ffilmiau a ardystiwyd yn 18 oed ac ni chewch ad-daliad. Gwiriwch y dystysgrif cyn archebu tocyn.

Pan fyddwch yn casglu eich cerdyn aelodaeth y Gymdeithas Ffilm o swyddfa docynnau'r Mwldan gofynnir i chi ddarparu prawf oedran.

*gan eithrio dangosiadau sinema 3D, digwyddiadau darlledu byw a dangosiadau cynnwys amgen.
 

Cyhoeddir ein ffilmiau ar dudalennau CFfThM ei hun ar Facebook a Twitter ac fel rhan o gyfathrebiadau’r Mwldan, gan gynnwys gwefan a rhaglen y Mwldan.

Top
C