Happy End (15)

Michael Haneke | 2017 | France | Austria | 107’

Isabelle Huppert sy’n serennu yn yr hyn sy’n ddrama gomig deuluol a sylwebaeth ddeifiol am y math o fyd mae ein plant yn byw ynddo. Naill ffordd neu’r llall, mae Happy End yn ffilm syfrdanol, yn hunllef ddychanol o lewyrch haute-bourgeois Ewropeaidd, ac yn ddrama deuluol wedi ei gosod yn Calais gyda'r argyfwng ffoaduriaid Ewropeaidd fel cefndir. Mae ynddi themâu cyfarwydd, ac mae mor afaelgar ag unrhyw opera sebon.

£7.30 (£5.50)
IS-DEITLAU