Lleisiau Eraill Aberteifi 2024
Yn dilyn digwyddiad hynod lwyddiannus yn 2023, mae bandiau arddwrn bellach ar werth ar gyfer pumed Lleisiau Eraill Aberteifi, gŵyl gerddoriaeth a syniadau Cymru-Iwerddon a ysbrydolwyd gan y gyfres gerddoriaeth Wyddelig enwog, a fydd yn cael ei chynnal yn Aberteifi dros benwythnos 31ain Hydref – 2il Tachwedd eleni.
Dros dridiau, bydd Lleisiau Eraill Aberteifi yn rhoi llwyfan i lein-yp gwych arall o ddigwyddiadau cerddorol a diwylliannol mewn lleoliadau cartrefol a gofodau llawn naws ledled Aberteifi, gyda Huw Stephens wrth y llyw ac wedi’u cyflwyno mewn partneriaeth â’r Mwldan a Triongl.
Caiff rhaglen yr ŵyl ei ffurfio gan dri llinyn craidd: rhaglen dridiau y Llwybr Cerdd sy’n arddangos y talentau gorau sy’n dod i’r amlwg o Iwerddon a Chymru, deuddydd o drafodaeth ysbrydoledig fel rhan o’r Sesiynau Clebran a’r nosweithiau o brif berfformiadau byw cartrefol yn Eglwys y Santes Fair gan rai o leisiau mwyaf disglair y byd cerddoriaeth.
Ewch at othervoices.ie am fanylion pellach a CLICIWCH YMA I ARCHEBU.
Beth sy’n cael ei gynnwys gyda fy mand arddwrn?
Bydd eich band arddwrn yn rhoi mynediad i chi i ddigwyddiadau’r Llwybr Cerdd ar draws y dref a'r sesiynau Clebran am ein pris cynnar o £35 yn unig. Mae'r pris yn codi i £50 ar 1af Gorffennaf.
OES PRIS AR GYFER BANDIAU ARDDWRN I BOBL 18 DAN?
Bydd nifer cyfyngedig o fandiau arddwrn ar gael i bobl dan 18* am £10.
*Cyfeiriwch at y lleoliadau unigol am eu polisïau mewn perthynas â phobl dan 18 mewn mannau trwyddedig.
PAM NAD YDYCH CHI'N GWERTHU TOCYNNAU AR GYFER PERFFORMIADAU EGLWYS Y SANTES FAIR?
Bydd y prif berfformiadau byw yn Eglwys y Santes Fair yn cael eu ffilmio ar gyfer y teledu mewn amgylchedd caeedig ac fel yn achos holl ffilmio Lleisiau Eraill, ni ellir prynu tocynnau ar gyfer y ffilmio. Mae prynu band arddwrn yn eich cynnwys yn y raffl i ennill tocynnau a bod yn rhan o'r gynulleidfa ar gyfer y perfformiadau arbennig hyn. Prynu band arddwrn yr ŵyl yw eich ffordd orau o sicrhau mynediad i sioe yn Eglwys y Santes Fair. Mwy am hyn yma.
SUT YDW I’N CASGLU FY MAND ARDDWRN?
Gellir cyfnewid eich cadarnhad archeb am eich band arddwrn yn hwb gŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi a fydd yn agor yn y Mwldan yn ystod wythnos yr ŵyl.
Ydy fy mand arddwrn yn gwarantu mynediad i'r Llwybr Cerdd?
Mae lleoliadau'r Llwybr Cerdd yn amrywio o ran maint. Mae capasiti yn gyfyngedig ar draws yr holl leoliadau, felly bydd mynediad ar y noson yn cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Bydd llawer o’n perfformwyr yn chwarae fwy nag unwaith ar draws yr ŵyl, felly byddwch yn cael ail gyfle i’w gweld.
SUT YDW I’N GWELD PWY SY'N CHWARAE?
Caiff rhagor o wybodaeth am y rhaglen a mynediad i'r digwyddiad ei hanfon allan yn y misoedd nesaf cyn y digwyddiad. Ymunwch â’n rhestr bostio a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol @othervoiceslive @theatrmwldan am fanylion wrth iddynt gael eu cyhoeddi. Am ragor o wybodaeth gweler www.othervoices.ie
SUT YDW I’N CAEL TOCYN AR GYFER EGLWYS Y SANTES FAIR?
Bydd y prif berfformiadau byw yn Eglwys y Santes Fair yn cael eu ffilmio ar gyfer y teledu mewn amgylchedd caeedig ac fel yn achos holl ffilmio Lleisiau Eraill, ni ellir prynu tocynnau ar gyfer y ffilmio. Mae prynu band arddwrn yn eich cynnwys yn y raffl i ennill tocynnau a bod yn rhan o'r gynulleidfa ar gyfer y perfformiadau arbennig hyn. Prynu band arddwrn yr ŵyl yw eich ffordd orau o sicrhau mynediad i sioe yn Eglwys y Santes Fair. Mwy am hyn yma.
NODYN AM EIN PRISIAU....
Rydyn ni eisiau i Leisiau Eraill fod yn ddigwyddiad rheolaidd yng nghalendr Aberteifi am flynyddoedd i ddod. I wneud hynny, mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o wneud yr ŵyl yn gynaliadwy yn ariannol, ac rydyn ni’n archwilio llawer o wahanol ffyrdd i wneud hyn yn bosibl.
Yn ffodus, mae rhai o gostau’r ŵyl yn cael eu talu gan Lywodraethau Cymru ac Iwerddon hyd at
2025, ond mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd eraill o dalu am gost lawn yr ŵyl tan hynny, a hefyd dod o hyd i ffyrdd i’r ŵyl barhau y tu hwnt 2025.
Un o'r ffyrdd hyn yw'r prisiau. Rydyn ni wedi bod yn gwerthu tocynnau ar gyfer Lleisiau Eraill
Aberteifi am brisiau anghyffredin o isel ar gyfer gŵyl tridiau yn y DU. Mae pawb yn cytuno mai
bargen ydyn nhw. Eleni rydyn ni’n ffodus ein bod yn gallu cadw pris tocyn cynnar ar lefel debyg i
brisiau 2023, a fydd yn parhau i fod ar gael tan ddiwedd mis Mehefin.
Rydyn ni hefyd yn falch o fod yn cynnig tocyn pris isel i’r rheiny dan 18 oed, am £10 yn unig. Mae nifer cyfyngedig o'r rhain ar gael, felly peidiwch ag oedi os ydych chi’n ystyried prynu un. Wedi hynny, bydd angen tocyn pris llawn ar y rheiny dan 18 oed.
Happily, we have some of the costs of the festival covered by the Welsh and Irish Governments until 2025, but we need to find other ways to cover the full cost of the festival until then, and also to find ways for the festival to continue beyond 2025.
One of these areas is the pricing. We have been selling tickets for Other Voices Cardigan at prices that are practically unheard of for a 3-day festival in the UK. Everyone agrees they are a bargain. This year we are fortunate to be able to keep the early bird ticket price at a similar level to 2023 prices, which will remain in place until the end of June.
Ffilmio a ffotograffiaeth yn ystod yr ŵyl
Noder, trwy brynu tocyn ar gyfer Lleisiau Eraill Aberteifi, rydych yn rhoi caniatâd i'ch delwedd gael ei chynnwys yn ein sioe deledu a deunyddiau ffotograffig. Bydd ein tîm cynhyrchu yn ffilmio ar draws Aberteifi a lleoliadau’r ŵyl drwy gydol dyddiadau’r ŵyl.
• Mae eich cyfranogiad yn cydnabod eich bod yn caniatáu cynnwys llun ohonoch yn ein sioe deledu a'n harchifau ffotograffiaeth. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, lluniau o’r dorf, ymateb y gynulleidfa, a rhyngweithiadau â pherfformwyr a gweithgareddau gŵyl.
Rydym yn eich sicrhau y bydd eich preifatrwydd a'ch hawliau yn cael eu parchu, a bydd eich delwedd yn cael ei defnyddio at ddiben dogfennu a hyrwyddo Lleisiau Eraill Aberteifi yn unig. Os oes gennych unrhyw bryderon neu os hoffech drafod ymhellach, cysylltwch â ni yn info@othervoices.ie.