Jon Boden

  Mae Jon Boden yn fwyaf adnabyddus fel prif gantor y grŵp gwerin blaengar Bellowhead. Ar ôl deuddeg mlynedd, 250,000 o werthiannau albwm, saith sengl ar restr chwarae Radio 2 a channoedd o ganolfannau lle gwerthwyd pob tocyn, ymrannodd Bellowhead ym Mai 2016. 

Yn hydref 2016 bydd Jon yn teithio am y tro cyntaf gan berfformio ar ei ben ei hun, ac yn cyflwyno caneuon o’i gyfansoddiad ei hun ar Painted Lady - gydag ailgyhoeddiad arbennig i ddathlu 10fed pen-blwydd yr albwm hwn cyn y daith - deunydd gan Bellowhead, Spiers & Boden, Songs From The Floodplain, a’i brosiect A Folk Song A Day pan recordiodd 365 o ganeuon gwerin mewn blwyddyn.

Bwyty Dros Dro - Bwydlen tri cwrs ar gael cyn y sioe yma

Mae’n bleser gennym gyhoeddi cyfres o brydau gosod cyn sioeau penodol yn y Mwldan yn y misoedd nesaf. Bydd ‘The People Tree’, profiad bwyty sy’n cael ei redeg gan Emma a Sana, yn cynnig bwydlenni gosod tri chwrs cyn sioeau byw dethol a digwyddiadau darlledu.Bydd bwydlen tri chwrs sy’n cynnwys cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin yn £20, a bydd opsiynau i lysfwytawyr a feganiaid hefyd ar gael. 

Cliciwch yma am manylion pellach.

£20

Browse more shows tagged with: