Stick in the Wheel
Mae Stick In The Wheel yn fand gwerin pum darn o Ddwyrain Llundain, a enwebwyd pedair gwaith am Wobr Werin y BBC. Yn adnabyddus am gyflwyniad tanllyd, dosbarth gwaith y gantores Nicola Kearey, a’u cerddoriaeth ddiwylliannol a gwleidyddol berthnasol, maen nhw’n adrodd straeon yn gelfydd drwy ganeuon sy’n ailgysylltu cynulleidfaoedd modern at y gorffennol, gan dynnu ar baralelau annisgwyl rhwng nawr a’r oes a fu. Mae eu halbwm newydd, Follow Me True, yn archwilio defodau a chylchredau, y gorffennol yn ailadrodd ei hun a’n grym cynhenid i newid ein hunain a’r byd o’n cwmpas. Gan ehangu ar sain radical eu début, parhânt i gwestiynu’r cysyniad o'r hyn yw canu gwerin, a’r hyn mae’n golygu yn 2018.
Bydd Jim Ghedi a Toby Hay yn cefnogi Stick in the Wheel yn Theatr Mwldan
Mae Jim Ghedi a Toby Hay yn creu cerddoriaeth sydd mor wreiddiedig o ran synnwyr lleoliad - megis eu cartrefi yn Rhaeadr a Dyffryn Moss - nes bod tirwedd yr amgylcheddau hynny yn rhedeg trwy eu recordiau fel afonydd yn ffrydio neu bennau bryniau'n ymestyn i'r pellter.
£14 (£13) £3