Mary Queen Of Scots (15)
Josie Rourke | 2018 | UK | 124’
Mae Saoirse Ronan (Lady Bird, Brooklyn, Atonement) yn serennu fel Mary Stuart wrth iddi geisio dymchwel ei chyfnither Elisabeth I, Brenhines Lloegr, sy’n cael ei phortreadu gan Margot Robbie (I, Tonya, The Wolf of Wall Street). Mae cyfeillgarwch y cyfnitherod yn troi’n elyniaeth chwerw wrth i bawb o gwmpas y ddwy frenhines geisio trin y sefyllfa. Disgwyliwch frwydrau epig, tirluniau syfrdanol a gwrthdaro annifyr.
£7.50