Fisherman's Friends (12A)
Chris Foggin | 2019 | UK | 111’
Ysbrydolwyd y ffilm hon gan stori wir grŵp o bysgotwyr sy’n canu. Aeth y criw o berfformio siantis môr yn harbwr y pentref, i sicrhau dêl record gwerth £1 miliwn gydag albwm yn y deg uchaf a pherfformiad ar lwyfan pyramid Glastonbury i ddilyn. Wedi ei ffilmio ar leoliad yn Port Isaac, dyma i chi gomedi sy’n dathlu grym cymuned a dynoliaeth.
£7.70 (£5.90)