Ballet Theatre UK: The Snow Queen (2022)
Mae'n ddrwg gennym roi gwybod bod The Snow Queen (04.02.22) gan Ballet Theatre wedi'i ganslo oherwydd materion yn ymwneud â COVID.
Bydd ein Swyddfa docynnau yn cysylltu â chi os ydych eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.
Ymunwch â Ballet Theatre UK ar gyfer eu hailwampiadhyfryd o fale stori dylwyth teg glasurol Hans Christian Andersen, The Snow Queen. Mae'r cynhyrchiad ysblennydd hwn yn dilyn stori Gerda a'i hymgais i ddod o hyd i'w ffrind Kay, sydd wedi'i roi o dan gyfaredd atgas gan y Snow Queen. Mae antur wych Gerda yn ei harwain ar daith ar draws y gogledd rhewllyd lle mae’n cwrdd â chriwo sipsiwn, ceirw swynol, a menyw ddirgel a meudwyaidd o’r Lapdir. Mae’r fenyw ddirgel yn dweud wrth Gerda i barhau i deithio i’r gogledd, lle bydd yn dod o hyd i Kay a Phalas Iâ y Snow Queen. Dim ond cariad Gerda tuag at Kay all ei ryddhau o’r gyfaredd a thorri melltith y Snow Queen, sef gaeaf tragwyddol. Mae cwmni enwog o ddawnswyr rhyngwladol Ballet Theatre, ynghyd â gwisgoedd hardd a setiau llwyfan disglair yn cyfuno i greu golygfa odidog, y cyfan wedi’i osod i sgôr gogoneddus a hudolus.
£18 (£16) (£10)