Avatar: The Way Of Water (12A)
James Cameron | USA | 2022 | 192’
Mae dilyniant hir-ddisgwyliedig Avatar: The Way of Water gan James Cameron, sy’n dangos o’r dyddiad rhyddhau cenedlaethol, yn cyrraedd y Mwldan o’r diwedd. Wedi'i gosod mwy na degawd ar ôl digwyddiadau'r ffilm gyntaf a ryddhawyd yn 2009, mae The Way of Water yn adrodd hanes y teulu Sully - Jake, Neytiri, a nawr eu plant, wrth iddyn nhw wynebu dychweliad bygythiad cyfarwydd sy'n addo gorffen yr hyn a gafodd ei ddechrau’n flaenorol. Rhaid i Jake weithio gyda Neytiri a byddin hil y Na'vi i amddiffyn eu planed, sef byd hardd Pandora. Mae'r dilyniant hwn, a gymerodd dros ddegawd i’w greu, yn cynnwys effeithiau gweledol syfrdanol ac yn gwthio ffiniau adrodd straeon unwaith eto.Gyda Zoe Saldana, Sam Worthington, Sigourney Weaver, Jemaine Clement a Kate Winslet.
£7.70 (£5.90)