Back

Ad-Daliadau a Chyfnewid

• Os ydych ddim yn medru mynychu perfformiad neu darllediad yr ydych wedi archebu tocynnau ar ei chyfer, fe allwch ddod yn ol a'ch tocynnau lan hyd at saith diwrnod cyn dyddiad y perfformiad ac fe fyddwn yn gallu rhoi nodyn credyd llawn atoch.

• Neu gallwn newid eich tocynnau ar gyfer perfformiad mwy cyfleus o'r un sioe neu ffilm, neu mewn achosion o dy llawn fe allwn gwneud ein gorau i ail-werthu eich tocynnau (ni allwn sicrhau y bydd hyn yn bosibl).

• Fe gynghorwn i chi gymryd sylw o dystysgrifau oedran ffilmiau i osgoi gael eich siomi, ni ellir gynnig ad-daliad os brynwch docynnau ar gyfer ffilm nad ydych o oedran i weld.

• Ni all tocynnau credyd/anrheg gael ei gyfnewid ar gyfer arian parod. Os caiff unrhyw eitem a gafodd ei brynu gyda thaleb ei gyfnewid neu ei ad-dalu, caiff unrhyw arian sy'n ddyledus ei ychwanegu at y balans ar y daleb.

 

***YN ARCHEBU TOCYNNAU AR GYFER DIGWYDDIAD YNG NGHASTELL ABERTEIFI?***

  • Cyfeiriwch at y dudalen digwyddiadau ar ein gwefan am wybodaeth hanfodol sy’n benodol i’r digwyddiad megis trefniadau eistedd, addasrwydd oed, gwybodaeth am arlwyo ac ati.
  • Caiff wybodaeth hanfodol bellach mewn perthynas â'ch digwyddiad ei hanfon atoch yn agosach at y dyddiad. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach mewn perthynas â’r digwyddiad rydych wedi archebu tocynnau ar ei gyfer.
  • Mae termau ac amodau  tocynnu arferol Theatr Mwldan hefyd yn gymwys i ddigwyddiadau yng Nghastell Aberteifi.
Top
A