Back

Seán Vicary: Dark Ecology

Mae gwaith Seán Vicary yn archwilio ein perthynas gyda’r byd ‘naturiol’. Gan ddwyn ysbrydoliaeth o hanes personol (ac ehangach), defnyddia orsaf wrando filwrol adfeiliedig yn Sir Benfro fel man cychwyn ar gyfer ystyried syniadau am systemau rhybuddio cynnar mewn perthynas â’n cyflwr o ansicrwydd amgylcheddol.

Gyda’i wreiddiau’n ddwfn mewn syniadau o ‘lle’, bydd gwaith Vicary yn aml yn cymryd eitemau sydd wedi eu canfod ynghyd a darnau o fywyd go iawn, a’u trin yn ddigidol yn gasgliadau animeiddiedig a’u hail-osod mewn gofod, rhithiol newydd. Gan weithio’n agos gyda cherddorion ac artistiaid sain, mae’r canlyniadau’n atgofus ac yn llwyddo yn eu hynodrwydd.

Digwyddiad agoriadol gyda cherddoriaeth fyw gan Ceri Rhys Matthews - mynediad am ddim 4yp 12 Awst

www.seanvicary.com

 
Free

Browse more shows tagged with:

Top