Back

Gwybodaeth Tocynnau

Diolch am eich archeb

Yn gyntaf, gwiriwch eich tocynnau’n ofalus (dyddiau, amserau a digwyddiadau), a rhowch wybod i’r swyddfa docynnau os oes unrhyw beth o’i le ar 01239 621200, neu e-bostiwch boxoffice@mwldan.co.uk. 

 

***YN ARCHEBU TOCYNNAU AR GYFER DIGWYDDIAD YNG NGHASTELL ABERTEIFI?***

  • Cyfeiriwch at y dudalen digwyddiadau ar ein gwefan am wybodaeth hanfodol sy’n benodol i’r digwyddiad megis trefniadau eistedd, addasrwydd oed, gwybodaeth am arlwyo ac ati.
  • Caiff wybodaeth hanfodol bellach mewn perthynas â'ch digwyddiad ei hanfon atoch yn agosach at y dyddiad. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach mewn perthynas â’r digwyddiad rydych wedi archebu tocynnau ar ei gyfer.
  • Mae termau ac amodau  tocynnu arferol Theatr Mwldan hefyd yn gymwys i ddigwyddiadau yng Nghastell Aberteifi.

 

Dim printiwr

Dim printiwr? Dim problem - rhowch eich rhif archebu i’r swyddfa docynnau (y rhif cafodd ei arddangos ar-lein wrth archebu) a gallwn brintio’r tocynnau ar eich rhan. Fel arall gallwch hefyd ddefnyddio eich archeb wedi ei arddangos ar eich ffôn symudol i gael mynediad at yr awditoriwm. 

 

Eich seddau

Caiff seddau ar gyfer digwyddiadau yn awditoria Theatr Mwldan eu dyrannu (felly cewch rif sedd a disgwylir i chi eistedd yn y sedd honno). Mae ein system archebu ar-lein yn eich caniatáu i ddewis eich seddau eich hun. Os hoffech newid eich seddau ar ôl i chi gadarnhau eich archeb neu os oes gennych unrhyw ofynion arbennig, yna cysylltwch â’n swyddfa docynnau ar 01239 621200 a gwnawn ein gorau i ateb eich anghenion. Mae rhifau eich seddau i’w gweld yn glir ar eich tocynnau. Siaradwch ag aelod o staff ar ôl i chi gyrraedd os oes angen cymorth arnoch.

 

Ffurf adnabod 

Dewch â ffurf adnabod gyda chi os ydych wedi archebu tocynnau gyda chonsesiwn. 

 

Eich trafodiad:

Os wnaethoch dalu am eich archeb ar-lein caiff y trafodiad hwn ei ddebydu o’ch cyfrif banc o dan yr enw trafodiad ‘www.mwldan.co.uk’.

 

Ad-dalu a chyfnewid:

Os ydych ddim yn medru mynychu perfformiad neu darllediad yr ydych wedi archebu tocynnau ar ei chyfer, fe allwch ddod yn ol a'ch tocynnau lan hyd at saith diwrnod cyn dyddiad y perfformiad ac fe fyddwn yn gallu rhoi nodyn credyd llawn atoch.

Neu gallwn newid eich tocynnau ar gyfer perfformiad mwy cyfleus o'r un sioe neu ffilm, neu mewn achosion o dy llawn fe allwn gwneud ein gorau i ail-werthu eich tocynnau (ni allwn sicrhau y bydd hyn yn bosibl).

Fe gynghorwn i chi gymryd sylw o dystysgrifau oedran ffilmiau i osgoi gael eich siomi, ni ellir gynnig ad-daliad os brynwch docynnau ar gyfer ffilm nad ydych o oedran i weld.

Ni all tocynnau credyd/anrheg gael ei gyfnewid ar gyfer arian parod. Os caiff unrhyw eitem a gafodd ei brynu gyda thaleb ei gyfnewid neu ei ad-dalu, caiff unrhyw arian sy'n ddyledus ei ychwanegu at y balans ar y daleb.

 

Top
G