David Fitzjohn: Fimbulwinter @ Oriel Mwldan
Yn ei waith diweddar, mae’n archwilio pryderon ynglŷn â newid hinsawdd. Mae themâu sydd wedi angori yn ein hymwybyddiaeth gan y stormydd diweddar y difethodd ein harfordir yn ein hatgoffa o natur lifol a newidiol ein tirwedd.
Teitl y gosodwaith yw Fimbulwinter, sydd mewn mytholeg Lychlynnaidd yn gyfnod o dri gaeaf yn olynol heb unrhyw haf rhyngddynt, trychineb amgylcheddol sydd yn rhagarweiniad uniongyrchol i ddiwedd y byd. Er efallai nad yw’r byd yn dod i ben, mae’r gwaith hwn yn ymateb i hyn trwy ddyfalu diwedd pethau fel y maent, cyfnewidioldeb a chymhwysedd natur a’r gobaith sydd wedi ymgorffori mewn dyfodol posibl.