Sean Harris: Through The Umber Mirror @ Oriel Mwldan

Mae Sean Harris, er ei fod yn hanu o gefndir gwneud printiau, yn fwyaf adnabyddus am ei waith mewn animeiddio - a delweddau mesmerig sy’n cyfuno print, tirwedd ac eitemau cynhanesyddol mewn modd unigryw. Mewn creu ffilmiau arbrofol sy’n archwilio mytholeg bersonol a diwylliannol ehangach, mae wedi cydweithio’n helaeth gydag amgueddfeydd mawr ar draws y byd gan gynnwys yr Amgueddfa Brydeinig a Sefydliad Smithsonian.

Yn Oriel Mwldan mae’n cyflwyno darn newydd a phersonol iawn The Wild (a grëwyd gyda chymorth ariannol oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru) ynghyd â darnau gwaith eraill sy’n archwilio'r cymhelliad dynol i ‘gipio’ momentau atseiniol  mewn amser a bytholrwydd y broses creadigol ei hun.

 

Browse more shows tagged with: