Antonia Dewhurst: Haearn/Iron @Oriel Mwldan
Am dros ganrif mae haearn rhychog wedi ei wau trwy dirwedd gefn gwlad Cymru. Er nad ydyw’n unigryw i’r ardal, fodd bynnag mae’n nodwedd annatod o gefn gwlad.
Mae’r deunydd, caiff ei garu gan rai, a’i gasáu gan eraill, mor hollbresennol fel nad ydym yn sylwi arno o hyd wrth iddo hindreulio’ nôl i’r ddaear. Mae’r prosiect hwn yn mynd ati i gofnodi'r hyn sydd ar ôl o’r strwythurau hyn cyn iddynt ddiflannu’n gyfan gwbl.
Trwy ffotograffiaeth, fideo, sain a cherflunio, bydd Antonia Dewhurst yn archwilio rôl pensaernïaeth fel trosiad am y cyflwr dynol, ein hangen cyffredinol am loches, a’n perthynas gymhleth gyda’r hyn y galwn yn gartref.
@tonidewhurst | #haearniron
Am ddim