Back

Gwirfoddoli a Profiad Gwaith

Gwirfoddoli

Ydych chi’n frwdfrydig am y celfyddydau ac mewn cefnogi’r gwaith a wnawn? Ydych chi am wneud gwahaniaeth i’r gymuned sy’n gartref i chi a chyfarfod â phobl debyg? Yna pam na ymunwch â’n tîm o wirfoddolwyr yn y Mwldan?

Mae gwirfoddolwyr pob amser wedi bod - ac yn parhau i fod - yn rhan hanfodol o ddatblygiad a threfniant dyddiol y Mwldan a’i sin diwylliannol.

Dros y blynyddoedd mae’r gefnogaeth i’r theatr wedi mynd o nerth i nerth. Mae ein tîm blaen tŷ presennol yn cynnwys staff cyflogedig a nifer o wirfoddolwyr o bob cefndir, pob oed ac o bob ardal o gwmpas Aberteifi , sy’n garedig iawn yn rhoi o’u hamser i gynnal amrywiaeth o rolau. Ni allwn weithredu hebddynt ac mae ‘na bob amser le am un arall!

 

Nodir os gwellwch yn dda - bydd rhaid bod yn oedran 16+i gwirfoddoli yma.

 

Pam gwirfoddoli?

Mae ‘na nifer o resymau pam bod pobl yn gwirfoddoli. Dyma i chi ond ychydig…..
 

  • Cyfarfod â phobl newydd, gwneud ffrindiau newydd a threulio amser mewn amgylchedd creadigol gydag ystod eang o bobl o bob cefndir a lleoliad ar draws Aberteifi a’r cyffiniau.
  • Ymwneud â rhedeg y theatr, sinema a chanolfan y celfyddydau’r Mwldan ar hyd y flwyddyn. Gyda chynulleidfa flynyddol o dros 90,000, byddwch bob amser yn brysur a ni fydd pethau byth yn ddiflas!
  • Byddwch ymhlith y cyntaf i ddarganfod beth sydd ar y gweill yn y Mwldan
  • Bydd gwirfoddolwyr yn derbyn tocyn am ddim i’r digwyddiadau maent yn gwirfoddoli ar eu cyfer. Ffordd wych o weld pethau am ddim!!
  • Fel gwirfoddolwr byddwch yn gallu mwynhau rhaglen eang y Mwldan, sydd yn enwedig o ddefnyddiol i’r rhai sy’n astudio Llenyddiaeth, y Cyfryngau neu Astudiaethau Theatr ar unrhyw lefel, neu’r rhai sy’n ystyried dilyn gyrfa yn y celfyddydau.
  • Profi ystod eang o ddyletswyddau ochr yn ochr â’n tîm o staff theatr amser llawn.
     

I ddysgu mwy am wirfoddoli, lawr lwythwch ffurflen gais trwy glicio yma, neu casglwch un o’n Swyddfa Docynnau a’i dychwelyd at:

Rheolwr Blaen Tŷ, Theatr Mwldan, Heol Bath House, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1JY.

 

 

Profiad Gwaith

Rydym yn derbyn llawer mwy o geisiadau am leoliadau profiad gwaith na fedrwn eu derbyn, felly cysylltwch â ni cyn gynted ag y mae’n bosibl os oes gennych ddiddordeb mewn treulio eich cyfnod profiad gwaith yma. 

 

 

Top
G