Ein Uchelgais

Pwrpas ac uchelgais barhaol y Mwldan yw bod yn glwstwr diwydiannau creadigol rhagorol, moesegol, arloesol, gweledol a chynaliadwy sy’n cyflwyno cynnwys a phrofiadau o safon trwy berfformiadau a phrosiectau, ac yn arddangos rhagoriaeth mewn arweinyddiaeth ddiwylliannol ar lefel gymunedol, genedlaethol a rhyngwladol.


Trwy ein gwaith cyflwyno a chynhyrchu, rydym am ddifyrru, hysbysu a chysylltu â’n cynulleidfaoedd. Rydym am ddenu ac adeiladu cynulleidfaoedd ar gyfer perfformiadau a chynyrchiadau teithiol sy’n cyfuno safonau o ragoriaeth ac ansawdd gyda chyffro, dyfeisgarwch, ac apêl hygyrch a chynhwysol.

E