Film Certificate Guidance

Sut y penderfynir ar dystysgrifau ffilm?

Caiff Tystysgrifau Ffilm eu penderfynu a’u dyfarnu gan Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain. Er mwyn amddiffyn plant rhag deunydd anaddas a hyd yn oed cynnwys niweidiol mewn ffilmiau a fideos ac i roi gwybodaeth y gall fod angen ar ddefnyddwyr cyn iddynt benderfynu eu gwylio ai peidio, mae’r BBFC yn ystyried ac yn graddio ffilmiau a fideos yn ôl oed cyn y cânt eu rhyddhau. Mae’r archwiliad annibynnol cyn rhyddhau yn sicrhau’r lefel uchaf oll o amddiffyniad a grymuso.

Mae’r BBFC yn gwylio ffilmiau a fideos o’r dechrau hyd y diwedd ac yn rhoi gradd oed a mewnwelediad i bob un. Maent yn cyrraedd gradd oed trwy osod y safonau a’r meini prawf a nodir yng Nghyfarwyddiadau Dosbarthu y gellir eu lawr lwytho isod.


Bydd yn ystyried materion megis gwahaniaethu, cyffuriau, arswyd, ymddygiad peryglus neu sy’n hawdd ei ddynwared, iaith, noethni, rhyw a thrais wrth wneud penderfyniadau. Mae thema’r gwaith hefyd yn ystyriaeth bwysi. Bydd hefyd yn ystyried naws ac effaith tebygol y gwaith ar y gynulleidfa botensial. 

Isod ceir crynodeb byr o’r hyn mae pob tystysgrif yn golygu. Peidiwch â digio os gwelwch yn dda os bydd aelod o’n staff yn gofyn am ddull adnabod cyn gwerthu tocyn ar gyfer ffilmiau penodol, gwneir hyn gyda lles ein cwsmeriaid mewn meddwl.

 

Beth mae’r symbol 'U' yn golygu? 

Yn addas i bawb.

 

 

Beth mae’r symbol 'PG' yn golygu? 

Mae’n bosibl bydd yn anaddas I blant o dan 8 mlwydd oed.

 

Beth mae’r symbol '12A' yn golygu? 

Ni all unrhyw berson sy’n iau na 12 oed wylio ffilm ‘12A’ mewn sinema oni bai bod oedolyn (18 oed ac yn hŷn) gyda nhw, ac ni argymhellir ffilmiau ‘12A’ i blant o dan 12 oed. Caniateir i oedolyn fynd â phlentyn iau, os, yn ei farn, mae’r ffilm yn addas ar gyfer y plentyn penodol hwnnw.  Mewn sefyllfa o’r fath, gyda’r oedolyn mae’r cyfrifoldeb am ganiatáu plentyn o dan 12 oed i wylio’r ffilm. 

 

Beth mae’r symbol '15' yn golygu? 

Ond yn addas i bobl sy’n 15 oed a cyn hŷn.

 

Beth mae’r symbol '18' yn golygu? 

Ond yn addas i oedolion 18 oed ac yn hŷn.

F