Cynllun Hygyrchedd Hynt

 

O 26 Mawrth byddwn yn ymuno â chynllun hygyrchedd cenedlaethol newydd, sef Hynt, bydd yn cymryd lle'r cynllun cerdyn CEA cyfredol yn y Mwldan. Bydd manteision y cynllun hwn yn gymwys ar gyfer digwyddiadau byw, darllediadau byw a dangosiadau ffilm. Mae gan bobl a chanddynt cerdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad ac am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalwr yn y Mwldan a phob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun.

Ewch at www.hynt.cymru am ystod o wybodaeth a chyfarwyddyd am y cynllun. Cewch wybod yno hefyd os gallwch chi neu’r person rydych yn gofalu amdano/amdani ymuno â’r cynllun a chwblhau ffurflen gais. Fel arall, cysylltwch â’n Swyddfa Docynnau ar 01239 621 200 i siarad ag aelod staff am Hynt yn y Mwldan.

 

Amdan Hynt

Mae celf a diwylliant i bawb.   Ond os oes gennych nam neu ofyniad mynediad penodol, yn aml, gall mwynhau ymweliad i theatr neu ganolfan gelf fod yn fwy cymhleth na dim ond archebu tocynnau a dewis beth i’w wisgo. 

Mae Hynt yn gynllun cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celf ar draws Cymru i wneud pethau’n glir ac yn gyson.  Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un sydd angen gwybodaeth benodol am fynediad i gynllunio ymweliad â theatr. Rydym yn rhan o’r cynllun Hynt am ein bod yn credu ei fod yn cynnig yr arfer gorau oll i’n cwsmeriaid o ran polisi tocynnau a mynediad teg.

 

Cerdyn Aelodaeth yw Hynt

Mae gan rai â cherdyn Hynt hawl i gael tocyn yn rhad am ddim i gynorthwyydd personol neu ofalydd ym mhob theatr a chanolfan gelf sy’n rhan o’r cynllun. Cliciwch yma i gael gwybod os gallwch chi neu’r person rydych yn gofalu amdano/i gael cerdyn neu cliciwch yma i wneud cais.

 

Adnodd yw Hynt

Mae www.hynt.cym yn cynnwys gwybodaeth ac arweiniad defnyddiol am y cynllun a sut mae’n gweithio. Mae hefyd yn adnodd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwybodaeth neu newyddion am fynediad a’r celfyddydau. Mae’r wefan yn cynnwys rhestrau o bob perfformiad hygyrch yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am leoliadau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad.

Byddwn yn hapus i esbonio’r cynllun yn llawn a’n rhan ni ynddo. Os hoffech siarad ag aelod o staff y Mwldan, cysylltwch â 01239 621200.

 

C