Hygyrchedd

Mae gan Mwldan fynediad a chyfleusterau gwych i bawb ac yn enwedig i bobl a chanddynt anableddau ac i ddefnyddwyr cadair olwyn. Bydd ein timau Blaen Tŷ a Swyddfa Docynnau yn gwneud pob dim y gallant i sicrhau bod eich ymweliad â’r Mwldan mor rhwydd a phleserus â phosibl.

 

Rydym hefyd yn cynnig dangosiadau sinema hygyrch - cliciwch yma am fanylion ein dangosiadau Disgrifio Sain, Atgyfnerthu Sain, Isdeitlau a Hamddenol.

 

Dod i mewn i’r adeilad

Mae ‘na ddrysau awtomatig ar bob prif fynedfa ac yna rampiau graddedig y tu fewn i’r adeilad. 

Symud i fyny yn y Mwldan

Mae ‘na lifftiau i bobl sydd yn cael anhawster gyda grisiau ac i ddefnyddwyr cadair olwyn sy’n caniatáu mynediad o lawr i lawr.

Mynd i’r tŷ bach

Mae tŷ bach hygyrch ar bob lefel o’r adeilad, gyda larwm cordyn i’w dynnu petasai angen cymorth arnoch. 

Ein theatrau

Mae mannau cadair olwyn ar gael ym mhob un o’n theatrau ac mae ‘na ddolenni clywed isgoch yn gweithredu ym mhob man. 

Ein rhaglen  

Mae ein deunyddiau hyrwyddol i gyd ar gael mewn ffont bras. Cysylltwch â ni i ofyn am gopi. 

 

 

Parcio eich car  


Mae gan y prif faes parcio y tu ôl i Theatr Mwldan pum man parcio dynodedig i ddefnyddwyr anabl a mynediad gwastad i’r Mwldan.  

 

 
Croeso i chi gysylltu â ni ar 01239 621 200 neu boxoffice@mwldan.co.uk cyn eich ymweliad os oes ‘na unrhyw beth hoffech ei drafod â ni. 
H