Ein Hymrwymiadau Gwyrdd

Ail-lenwi dŵr am ddim

Mae Mwldan yn orsaf ail-lenwi bwrpasol ac yn rhan o'r cynllun ‘Refill’ cenedlaethol. Croeso i’n cwsmeriaid ddod â’u poteli eu hunain i’w hail-lenwi. Gallwch ddarllen mwy am y cynllun hwn ar wefan Refill:  www.refill.org.uk

 

Lampau Taflunio Sinema

Pan fydd ein lampau taflunio yn cyrraedd diwedd eu hoes, fe'u hanfonir yn ôl at Sound Associates lle cânt eu datgymalu. Yna byddwn yn derbyn adroddiad yn ôl yn dweud wrthym beth oedd y lamp yn dweud am gyflwr ein taflunydd, trydan ac awyru. Mae'r metelau a ddefnyddir yn y lampau hyn yn ddrud iawn felly mae'r rhain yn cael eu casglu ac mae hyn yn talu am beiriannydd i edrych ar y lampau. Mae pob rhan arall o'r gwydr cwarts a'r tâp arian hefyd yn cael eu hailgylchu felly nid oes  unrhyw beth yn cael ei wastraffu. Caiff hyd yn oed y blychau cardbord y maent yn cyrraedd ynddynt eu hailddefnyddio.

 

Ein toiledau

Defnyddiwn Natural UK ar gyfer ein Gwastraff Cewynnau a Gwastraff Benywaidd, felly nid yw’r gwastraff hwn yn mynd i safleoedd tirlenwi - mae popeth yn cael ei ferwi a'i droi’n Fyrddau Inswleiddio neu yn Becynnau ar gyfer Gollyngiadau Diwydiannol!

Rydym wedi gosod tapiau arbed dŵr yn ein toiledau merched a dynion.

Gosodir system ‘Cisternmister’ yn nhroethfeydd y dynion (byddant ond yn fflysio pan fydd y synwyryddion yn canfod symudiad).

 

Ein system wresogi

Caiff ein systemau gwresogi ac awyru eu rheoli gan gyfrifiaduron er mwyn cyrraedd yr effeithlonrwydd ynni a rheolaeth cysur mwyafrifol.

  

Gwastraff Cyffredinol

Mae'r holl wastraff o'r biniau sbwriel a ddefnyddiwn yn fewnol yn cael ei ddidoli â llaw gan ein tîm gwasanaethau a'i ailgylchu lle bo modd (eitemau gwydr / papur / cardbord / plastig). Mae ein hen fylbiau golau yn mynd at y ffatri ailgylchu leol yn ogystal ag unrhyw electroneg / peiriannau sydd wedi torri a phren sgrap sydd angen ei waredu.

 

Ein Bar ac Arlwyo

  • Mae ein cwpanau coffi ‘Gwyrdd’ yn 100% addas ar gyfer compostio, ac wedi'u gwneud o fwrdd ardystiedig FSC gyda deunydd starts. 
  • Mae'r sbectolau plastig amldro rydyn ni'n eu cynnig wedi'u gwneud o ddeunydd cadarn a all fynd trwy ein peiriant golchi llestri.
  • Mae ein gwellt diod papur meddal yn 100% addas ar gyfer compostio.
  • Mae'r bocsys popcorn rydym yn eu defnyddio yn gardbord a chaiff ein holl wastraff cyffredinol ei ailgylchu lle bynnag y bo modd.
  • Rydym bellach yn cynnig y rhan fwyaf o'n diodydd wrth y bar mewn poteli gwydr.
  • Ar ôl cysylltu â'n cyflenwyr, rydym wedi lleihau ein gwastraff plastig yn y tarddle. Mae Bragdy Mantle bellach yn dosbarthu poteli heb unrhyw ddeunydd pacio plastig.

 

Ein Rhaglen

Caiff ein llyfryn chwarterol ei bostio’n 'noeth', sy'n golygu bod eich cyfeiriad post yn cael ei argraffu yn uniongyrchol ar y llyfryn ei hun felly nid oes angen pecynnu ychwanegol.  

Mae ein hargraffwyr, Gomer, wedi'u hardystio gan Gyngor Stiwardiaeth y Goedwig ® a daw’r  papur byddant yn ei ddefnyddio’n gyfan gwbl o goedwigoedd cynaliadwy. Mae eu cyfarpar argraffu modern wedi'u cynllunio i ddileu llawer o'r prosesau niweidiol sy'n ymwneud yn hanesyddol â phrintio. Erbyn hyn, mae eu platiau yn rhydd o allbwn cemegol, mae'r gweisg yn rhedeg gyda llai o alcohol ac mae’r inciau’n seiliedig ar lysiau ac mae’r cwmni wedi  achredu at Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd - Lefel 2.

E