Gweithio Gyda Ni
Rydyn ni'n cyflogi!
Dirprwy Reolwr Gweithrediadau (llawn amser)
Fel y Dirprwy Reolwr Gweithrediadau, byddwch wrth galon ein gweithrediadau, yn gweithio’n agos gyda’r Rheolwr Gweithrediadau i sicrhau bod ein canolfan gelfyddydau a’n sinema yn rhedeg yn ddidrafferth bob dydd. Byddwch yn chwarae rhan hanfodol wrth lunio profiad yr ymwelydd tra’n arwain ein hadran Blaen y Tŷ er mwyn darparu gwasanaethau cwsmeriaid eithriadol ar draws ein rhaglen brysur o ddigwyddiadau yn fewnol yn y Mwldan, a hefyd ar draws ein stiwdios a’n gofodau gwaith, ac yn ôl yr angen er mwyn cyflwyno ein digwyddiadau allanol a'n gŵyl Lleisiau Eraill flynyddol yn Aberteifi.
Diddordeb?
Y Broses Ymgeisio:
Dylai ymgeiswyr wneud cais am y swydd trwy gyflwyno CV cyflawn gyda llythyr cysylltiedig. Dylai eich cais gynnwys manylion llawn am gyflogaeth gyfredol a blaenorol, yn enwedig profiad sy’n berthnasol i'r swydd a hysbysebwyd, yn ogystal â’ch hanes addysg. Efallai y bydd ymgeiswyr yn dymuno cynnwys unrhyw wybodaeth neu ddeunydd ychwanegol y maent yn eu hystyried yn berthnasol i'w cais.
Mae'r Mwldan yn gyflogwr cyfle cyfartal. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Dylai ceisiadau gael eu marcio gyda ‘Cyfrinachol’ a'u hanfon at Jasmine Revell, Rheolwr Gweithrediadau, Theatr Mwldan, Heol Bath House, Aberteifi, SA43 3JY neu e-bostiwch jasmine@mwldan.co.uk
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais erbyn 5pm ar 7fed Mawrth a chynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 12fed an 13fed o Fawrth.