Prisiau Tocynnau & Gostyngiadau

Prisiau Sinema

Ceir mynediad i ddangosiadau sinema 2D am £8.40 ar gyfer oedolion, £7.70 (Pobl 60+, Anabl, Job Seeker / Income Support, Myfyrwyr Llawn Amser 15+), a £5.90 ar gyfer plant oed 14 ac yn is. 

Cyfeiriwch os gwelwch yn dda at ddigwyddiadau unigol ar gyfer Darllediadau Lloeren Fyw megis NT Live a dangosiadau'r Met Opera.  Fe gynghorwn i chi gymryd sylw o dystysgrifau oedran ffilmiau i osgoi gael eich siomi, ni ellir gynnig ad-daliad os brynwch docynnau ar gyfer ffilm nad ydych o oedran i weld.

 

Prisiau Ar Gyfer Sioeau Byw

 

Mae prisiau gostyngol ar gael ar gyfer sioeau byw (mewn cromfachau lle y maent ar gael) os ydych yn blentyn (dan 14 oed), myfyriwr, dinesydd hyn, yn anabl neu yn gofrestredig ddi-waith.  Dangoswch os gwelwch yn dda prawf o statws. Nid oes tâl ar gyfer babanod (o dan 2 oed), ond ni chânt sedd eu hunain.

 

Prisiau Grwp

Efallai bydd yn bosibl drefnu prisiau grwp ar gyfer rhai ddigwyddiadau neu dangosiadau.  Cysylltwch a'r Rheolwraig Marchnata tamsin@mwldan.co.uk

 

Prisiau Mets Y Mwldan

Mae gennym gynllun tocynnau gostyngiadol ar gyfer y rhai sydd yn 11-18 oed - cliciwch yma ar gyfer rhagor o fanylion.

 

Tocynnau Cyfarch

Nodwch os gwelwch yn dda bod tocynnau cyfarch a/neu gwobrau raffl sinema ddim yn ddilys ar gyfer unrhyw dangosiad ffilm sydd yn cwympo o fewn y pedwar wythnos cyntaf o ddyddiad Rhyddhau Cenedlaethol y teitl hwnnw.  Cysyllter a'r swyddfa docynnau ar gyfer eglurhad o dangosiadau cymwys.

P