Newidiadau i’r rhaglen

Bu’n rhaid i ni newid y rhaglen sinema a hysbysebwyd fel a ganlyn:

Wedi'i ddiweddaru ar Mawrth 04, 2020

 

Mae'r stiwdios ffilm wedi penderfynu gohirio rhyddhau No Time to Die tan fis Tachwedd oherwydd pryderon ynghylch Coronafeirws.

Rhaglen ddiwygiedig i'w chadarnhau. Gweler yma am y wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen wrth iddi gael ei chadarnhau.

 

Mae'r dyddiad rhyddhau ar gyfer THE KING’S MAN (15 i'w gadarnhau) wedi'i ohirio ac mae dangosiadau wedi newid fel a ganlyn:

21-22 March / Mawrth: 1917 (15) @ 3.25pm

24-26 March / Mawrth: THE PERSONAL HISTORY OF DAVID COPPERFIELD (PG) @ 8.15pm

 

Mae rhai dangosiadau o CATS (U) wedi'u canslo ac yn eu lle bydd:

7 & 14 March / Mawrth: LITTLE WOMEN (U) @ 2.55pm

 

Mae rhai dangosiadau o RICHARD JEWELL (15) wedi'u canslo ac yn eu lle bydd:

3 – 5 March / Mawrth: 1917 (15) @ 8.10pm

 

Mae dyddiad rhyddhau NO TIME TO DIE (12A tbc) wedi symud i 2il Ebrill, ac ychwanegir dangosiadau ychwanegol, sy’n cymryd lle MILITARY WIVES (12A) a GREED (15) fel a ganlyn:

2 April / Ebrill: NO TIME TO DIE (12A tbc) 4.30pm, 8.15pm

 

Mae'r dyddiad rhyddhau ar gyfer GODZILLA VS KONG (12A tbc) wedi'i ohirio ac mae dangosiadau wedi newid fel a ganlyn:

3 – 9 April / Ebrill: THE INVISIBLE MAN (15 tbc) @ 8.20pm

 

Mae'r dyddiad rhyddhau ar gyfer TROLLS WORLD TOUR (U tbc) wedi'i ohirio ac mae dangosiadau wedi newid fel a ganlyn:

10 – 15 April / Ebrill: THE CALL OF THE WILD (PG) @ 1.00pm

16 April / Ebrill: THE CALL OF THE WILD (PG) @ 12.30pm

 

Ymddiheuriadau Am Unrhyw Anghyfleustra A Achosir.

 

Yn anffodus bydd yn rhaid i ni wneud newidiadau i’n rhaglenni printiedig o ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth. Er enghraifft, weithiau caiff dyddiau rhyddhau ffilmiau eu newid gan y dosbarthwyr ar ôl i ni argraffu’r rhaglen.

Os ydych wedi archebu eich tocynnau o flaen llaw ar gyfer dangosiad neu ddigwyddiad yn y Mwldan, bydd ein Swyddfa Docynnau yn ceisio cysylltu â chi (gan ddefnyddio’r manylion cyswllt y cawsom gennych wrth archebu eich tocynnau) os oes unrhyw newidiadau i’r rhaglen bydd yn effeithio ar y digwyddiad.

Os nad ydych wedi archebu eich tocynnau o flaen llaw fe’ch cynghorwn i wirio (gyda’n Swyddfa Docynnau neu’n gwefan) cyn gadael gartref - yn enwedig os ydych yn gwneud siwrnai hir - bod ein rhaglen heb newid o’r hyn a hysbysebir.

Argymhellwn eich bod yn archebu eich tocynnau o flaen llaw neu ar y ffôn pryd bynnag bo’n bosibl - yna gallwn gysylltu â chi os bydd unrhyw amgylchiadau annisgwyl yn codi.

N